Mair Tomos Ifans

Actores, llenor, cantores a storïwraig o Gymru yw Mair Tomos Ifans (ganwyd Ebrill 1960). Cafodd ei magu yn Abergynolwyn a Harlech. Astudiodd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni'r Frân Wen. Mae hi wedi ymddangos ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers y 1980au, a'r mwyaf diweddar yn y cyfresi Rybish a Bariau ar S4C. Gall ganu'r delyn, y piano, y gitar a theulu'r recorder. Enillodd nifer o wobrau am ganu, gan gynnwys Gwobr Goffa Elfed Lewys am ganu baled yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009. Yn 2001, fe dreuliodd hi flwyddyn yn byw ar Ynys Enlli. Mae Mair wedi bod yn storïwraig ers ugain mlynedd, gan ganolbwyntio ar gyflwyno straeon, caneuon, ac arferion traddodiadol Cymru. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Gwylliaid Cochion y Llew.


Developed by StudentB